10 Peth Da – Ennill Diwrnod Spa

10 Peth Da – Ennill Diwrnod Spa

Ydych chi’n adnabod Mam arbennig? Ydi hi wastad yn gwneud pethau i bobl eraill? Ydi hi’n haeddu trît arbennig?

Yn rhan o 10 mlwyddiant Cartrefi Conwy a’n rhoddion “10 Peth Da”, rydyn ni’n rhoi cyfle i chi ennill diwrnod mewn sba i ddau yn ngwesty a sba Deganwy Quay ar gyfer Mam arbennig!

I gystadlu, anfonwch baragraff byr atom yn dweud pam mai’r Fam rydych chi’n ei hadnabod sy’n haeddu’r wobr hyfryd yma. Gallwch wneud hyn drwy anfon neges Facebook atom, e-bostio communications@cartreficonwy.org, anfon llythyr i Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, LL22 8LJ neu fe allwch ein ffonio i ddweud pam!

Bydd y dyddiad cau i gystadlu ar 28 Chwefror 2018 er mwyn i ni allu dewis Mam haeddiannol iawn a sicrhau bod eich gwobr yn barod i’w rhoi iddi ar Sul y Mamau.

Y darn print mân: Rhaid i bob ymgais fod gan denant i Gartrefi Conwy, neu mae’n rhaid i’r Fam sy’n wedi’i henwebu fod yn denant i Gartrefi Conwy. Mae’r wobr ar ffurf taleb i 2 i’w defnyddio yng ngwesty a sba Deganwy Quay – mae telerau ac amodau’r gwesty ei hun yn berthnasol i’r daleb.