Penodwyd fel y sawl a gyfetholwyd ar Fwrdd Creu Menter
Mae Guto wedi bod o fewn byd busnes ers 30 mlynedd. Yn ogystal â rheoli ei fusnesau ei hun mae’n cynghori sefydliadau ar raddfa bach a mawr ar strategaeth a thwf ac mae wedi cwblhau dros 100 prosiect o’r fath dros y 25 mlynedd diwethaf yn y DU ac Ewrop. Ar ôl dychwelyd i Ogledd Cymru yn 2013, mae’n rhannu ei amser yn helpu i godi arian i Fanc Bwyd Conwy, parhau i helpu ei gleientiaid i dyfu a gofalu am ei deulu ifanc.
Mae Guto yn credu bod y traddodiad Cymreig bob amser wedi rhoi’r gymuned yn gyntaf ac mai’r ymateb gorau i dlodi ac allgáu cymdeithasol yw datgloi’r ysbryd hwn ac ailrymuso cymunedau lleol, gan eu gwneud yn hunangynhaliol yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Last modified on Awst 26th, 2020 at 7:34 pm