![]()
Mae Angie yn drigolyn Llandudno. Mae Angela wedi ennill profiad a gwybodaeth amhrisiadwy drwy’i holl waith gwirfoddol o fewn amryw sefydliadau, megis y Bwrdd Cynghori Dinasyddion, yr Undeb Credyd, Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol, Clwb Ieuenctid Ty Llewelyn, Canolfan Dawn a llawer o sefydliadau eraill.
Roedd Angie yn aelod sylfaenol o’r Undeb Credyd lleol, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Cambrian Loans, yn aelod sylfaenol o Ganolfan Gymunedol Ty Llewelyn ac hefyd Canolfan Gymunedol Ty Hapus. Mae Angie yn gofalu am y gymuned y mae’n byw ynddi ac mae wedi gwirfoddoli ac yn dal i wirfoddoli mewn gweithgareddau amgylcheddol; mae’n aelod gweithgar o Friends of Mostyn Street (FOMS). Mae hi wedi llwyddo i ennill gradd mewn Polisi Cyhoeddus a Chymdeithasol, diploma QFC lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lefel 3 mewn gwaith ieuenctid a lefel 3 mewn gwaith chwarae, ymhlith llawer o ddiplomâu eraill a gyflawnwyd.
‘Fy rheswm dros ddod yn aelod o’r bwrdd fydd i gynrychioli llais tenantiaid ac hefyd helpu i gynnal gweledigaeth Cartrefi Conwy o’u darpariaeth gymunedol o dai cymdeithasol a chymunedau i fod yn falch ohonynt.’
Last modified on Rhagfyr 1st, 2025 at 11:02 am