Andrew Bowden – Prifweithredwr Y Grwp

Andrew Bowden – Prifweithredwr Y Grwp

Andrew Bowden our chief executive smiles to camera

Treuliodd Andrew dros ugain mlynedd yn gweithio mewn Llywodraeth Leol ac yn y Trydydd Sector cyn cael ei benodi’n Bennaeth Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Yn 2008 cafodd ei benodi’n Brif Weithredwr Cartrefi Conwy yn dilyn trosglwyddiad stoc ar raddfa fawr o Gyngor Conwy, y trosglwyddiad gwirfoddol cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru. 

Mae Andrew yn aelod o Fwrdd CREW (Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru), yn aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (MRICS) ac yn Gymrawd Sefydliad y Cyfarwyddwyr (FIoD).

Dymuniad Andrew yw galluogi Cartrefi Conwy i adeiladu tai newydd fforddiadwy ar draws Gogledd Cymru er mwyn diwallu’r galw am dai y gall pobl fforddio byw ynddynt.  Wrth wneud hyn mae Andrew yn awyddus i sefydlu partneriaethau lleol a rhanbarthol er mwyn adeiladu cymaint o dai newydd ag sydd bosibl dros y blynyddoedd i ddod.

Mae Andrew hefyd yn teimlo’n angerddol y dylid darparu gwasanaethau yn y gymuned, a gyda hyn mewn golwg sefydlodd Cartrefi Conwy ei is-gwmni cyntaf, sef Creu Menter.  Mae Creu Menter ar hyn o bryd yn ymgymryd â nifer o weithgareddau gyda phwyslais penodol ar ddarparu cyfleoedd gwaith i’w denantiaid.  

Last modified on Awst 26th, 2020 at 7:42 pm