Tai Canolradd Gyda Cartrefi Conwy

Beth yw Rhent Canolradd?

Mae rhent canolradd yn ffordd sy’n fwy fforddiadwy o rentu cartref (fel arfer tua 20% yn llai na rhentu sector preifat). Bydd y cynllun hwn yn rhoi’r cyfle i chi gynilo ar gyfer blaendal, os ydych yn meddwl am brynu eich cartref eich hun yn y dyfodol.

Pwy sy’n gymwys am Rent Canolradd?

  • Oedran – rhaid i chi fod dros 18 mlwydd oed.
  • Ariannol – i gael incwm cartref gros blynyddol rhwng £ 16,000.00 a £ 45,000.00 **
  • Incwm – rydym yn ystyried credyd treth yn unig. Nid ydym yn ystyried budd-daliadau fel incwm.
  • Cyflogaeth:- rhaid i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth (rhan amser neu llawn amser ond rhaid bod ag incwm gros y flwyddyn o £16,000 – £45,000) neu os yn prynu, efo cynilion ac yn methu prynu ar y farchnad agored heb gymorth. (bydd rhaid fod gennych incwm i gynnal yr eiddo).
  • Fforddiadwy – ni allwch fforddio i rentu ar y farchnad agored a/neu brynu eiddo sy’n addas i’ch anghenion.
  • Llety – i fod naill ai’n brynwr tro cyntaf neu os yw’r cartref presennol yn anaddas a ddim yn cwrdd ag anghenion eich teulu e.e.
    • oherwydd maint teulu
    • fforddiadwyedd
    • anghenion penodol neu
    • mewn angen oherwydd tor perthynas.
  • Cysylltiad Lleol :- bydd rhaid i chi fod â chysylltiad lleol â’r ardal rydych yn dewis byw ynddi e.e. yn byw, gweithio neu gyda theulu , cysylltiad teuluol agos.
  • Eithriad– Personél Gwasanaeth – rydym yn ystyried ceisiadau hyd yn oed os yw’r `Service Personnel’ ar incwm `zero’ – ond rhaid cael cysylltiad lleol fel a nodir uchod.

I ymgeisio am dai Canolradd, cysylltwch â Datrysiadau Tai Conwy:

Gallwch gysylltu â’r tîm drwy ein ffurflen ar-lein neu ffoniwch Tai Teg ar 0345 6015605

Neu os byddai’n well gennych siarad â rhywun wyneb yn wyneb, dewch draw i Swyddfa Datrysiadau Tai Conwy rhwng 9.30 a 4.00 pm (Dydd Llun – Dydd Gwener):

Coed Pella,
Conway Road,
Colwyn Bay.
LL29 7AZ

 

Last modified on Mawrth 2nd, 2021 at 4:19 pm