Ymhlith y datblygiadau o adeiladau newydd cyntaf ar gyfer Cartrefi Conwy mae 6 byngalo 2 stafell wely yn Maes y Glyn, Hen Golwyn, a ddisodlodd 6 byngalo yr ystyriwyd eu bod yn anaddas at y diben a ddim yn strwythurol gadarn.
Roedd y 6 byngalo a safodd ar y safle yn annigonol ar gyfer anghenion modern ac yn hollol aneffeithlon o ran inswleiddio ac arbed ynni. Mae gan y 6 byngalo baneli ffotofoltäig wedi’u gosod ar eu toeau, sy’n golygu bod tenantiaid yn elwa ar filiau tanwydd is.
Rydym yn gweithio’n barhaus at wella ein stoc tai a bydd ein rhaglen ddatblygu yn golygu y byddwn yn disodli’r eiddo hynny yr ystyrir yn anaddas at y diben, gyda chartrefi newydd tanwydd effeithlon, wedi’u hadeiladu i safon uchel.
FFEITHIAU ALLWEDDOL
- Cyfanswm Cost y Cynllun: £577,546
- Dyddiad dechrau: Mawrth 2013
- Wedi’i gwblhau: Mawrth 2014
- Datblygiad 6 cartref yn cynnwys
- 6 byngalo 2 ystafell wely
- Mae pob uned wedi ei hachredu gyda Chod Cartrefi Cynaliadwy Lefel 4
- Cyflogwyd 97% o’r llafur yng Ngogledd Cymru gyda chontractwr lleol
- Cyflogwyd 1 prentis llawn amser ar y cynllun
Last modified on Mawrth 29th, 2017 at 11:28 am