Mae ein tîm cyfeillgar yn hapus i helpu ateb eich ymholiadau, ac yn croesawu eich adborth a’ch sylwadau i’n helpu i wella’r gwasanaeth a gewch chi.
Julie Brotherton
“Rydw i wedi gweithio yn fy rôl fel Swyddog Ymgysylltu Prydlesau a Thir am nifer o flynyddoedd ac yn mwynhau’n fawr. Rydw i wedi datblygu fy rôl dros y blynyddoedd i allu cynnig gwasanaeth cefnogi cysurlon i denantiaid prydlesol. Mae gennyf lawr o wybodaeth ac fel arfer yn gallu ateb ymholiadau unigolyn am brydlesau. Cwpl o flynyddoedd yn ôl, roeddwn yn falch iawn o allu chwarae rhan i sefydlu’r Fforwm Landlordiaid sy’n cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Fy amcanion ar gyfer y dyfodol yw parhau i gydweithio, fel y gallwn barhau i wella ein gwasanaethau. Byddem yn annog pob prydleswr i ddod draw i’r fforwm, yn enwedig os nad ydych wedi bod o’r blaen, a’n cyfarfod am sgwrs dros baned.”
Nicky Haselgrove
“Fi yw’r Cyfrifydd Taliadau Gwasanaeth ac rydw i’n gyfrifol am gyfrifo a pharatoi eich taliadau am y flwyddyn. Rydw i’n gweithio’n agos â Julie, y Swyddog Prydlesau, o ran cyfreithwyr ac ymholiadau gwybodaeth ariannol. Rydw i’n mwynhau mynd i’r fforwm prydlesau a dod i gyfarfod ein prydleswyr wyneb yn wyneb”.
Last modified on Mawrth 1st, 2021 at 8:29 pm