Asbestos

Asbestos

YDW I MEWN PERYGL?

Ni fyddwch mewn perygl os nad yw cynhyrchion sy’n cynnwys asbestos yn cael eu tarfu a’u difrodi. Mae’n annhebygol iawn y byddai’r lefelau asbestos yn unrhyw adeilad sy’n eiddo i Cartrefi Conwy yn niweidiol.

Beth yw Asbestos?

Defnyddiwyd deunyddiau adeiladu a oedd yn cynnwys asbestos yn eang iawn o tua 1930 i 1980, ac yn enwedig o 1960 ymlaen gan fod ffibrau asbestos yn gryf ac yn gallu gwrthsefyll gwres a chemegau. Pan fo asbestos yn cael ei ddifrodi mae’n rhyddhau ffibrau i’r aer sy’n gallu achosi problemau os cânt eu hanadlu.

Pethau i’w gwneud a phethau i beidio â’u gwneud

  • Dylech gysylltu â’ch Cydlynydd Cymdogaeth cyn gwneud unrhyw waith ar eich cartref.
  • Dylech riportio unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos sydd wedi’i ddifrodi neu wedi gwisgo wrthym ar 0300 124 0040.
  • Peidiwch â gwneud unrhyw waith DIY a allai ddifrodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos.
  • Peidiwch â ‘sgubo, hel llwch na hwfro unrhyw falurion a allai gynnwys asbestos Peidiwch â sandio, sgrapio, drilio na thorri unrhyw beth y credwch sy’n cynnwys asbestos
  • Peidiwch â cherdded drwy falurion a allai gynnwys asbestos, bydd yn halogi rhannau eraill o’ch cartref.
  • Dylech fod yn ymwybodol y gallai gweithgareddau DIY fel sandio neu ddrilio aflonyddu ar gynnyrch sy’n cynnwys asbestos a rhyddhau ffibrau i mewn i’ch cartref. Mae’n hanfodol eich bod yn gofyn am ein caniatâd cyn gwneud unrhyw welliannau neu waith cynnal i’ch cartref fel y gallwn wirio ein cofnodion am wybodaeth am asbestos.

Os ydych yn bryderus o gwbl y gallai fod asbestos wedi’i ddifrodi neu asbestos sy’n heneiddio yn eich cartref, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 0300 124 0040.

Last modified on Mai 18th, 2017 at 10:53 am