Croeso i Cartrefi Conwy

Mae Cartrefi Conwy yn ‘Landlord Cymdeithasol Cofrestredig’ gyda dros 4000 o eiddo ledled Sir Conwy yng ngogledd Cymru.

Rydym ni’n un o ddarparwyr tai fforddiadwy o safon uchel mwyaf blaenllaw gogledd Cymru, ac rydym yn gweithio’n galed i greu 1,000 o gartrefi newydd ar draws yr ardal dros y 10 mlynedd nesaf.

Ond rydym ni’n llawer mwy na dim ond darparwr tai sydd wedi ennill gwobrau. Rydym yn ceisio creu cymunedau i fod yn falch ohonynt.

 

Diwrnod Cymunedol Cartrefi Conwy: Chwaraeon i bawb!!

Cofrestrwch Nawr!!

Ymunwch â ni ar gyfer y Gem Cartref Cartrefi Conwy rhwng RGC ac Ebbw Vale ddydd Sadwrn 13 Ionawr yn The Barn, Parc Eirias. Mae’n ddiwrnod llawn cyffro, yn dechrau gyda gweithgareddau chwaraeon i blant am 11:45 y bore, ac wedyn cinio teuluol am 1:30 y prynhawn. Wedyn, manteisiwch ar y cyfle i gymryd rhan yn y gorymdaith am 2 o’r gloch!

Mae’r diwrnod yn gorffen gyda mynediad am ddim i’r gem.

Cofrestrwch drwy lenwi’r ffurflen gofrestru – cliciwch yma!

Am unrhyw ymholiadau pellach, ebostiwch Imogen at imogen.wood@cartreficonwy.org. Nodyn: Mae’r digwyddiad arbennig hwn ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy ac am ddim i’r rhai sy’n bresennol. Mae tocynnau yn brin felly brysia!

Events

Word On The Street