Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) di-elw annibynnol yw Cartrefi Conwy. Fe ffurfiwyd o ganlyniad i drosglwyddo tua 3,800 o gartrefi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2008.
Ers i’r cartrefi gael eu drosglwyddo i ein perchnogaeth a’n rheolaeth, rydym wedi buddsoddi’n drwm yn eu hadnewyddu er mwyn cyrraedd hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru.
Ac byddwn yn parhau i gynnal ein cartrefi i’r safon uchel hon yn y dyfodol.
Ynghyd â hyn rydym hefyd wedi dechrau rhaglen ddatblygu uchelgeisiol o gartrefi fforddiadwy o ansawdd ledled Sir Conwy. Trwy adeiladu eiddo newydd, cymryd perchnogaeth eiddo gwag a gweithio mewn partneriaeth â darparwyr tai eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ein nod yw gwneud effaith gadarnhaol i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi ar draws ein hardal weithredu. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i adeiladu 1,000 o gartrefi newydd yn y blynyddoedd i ddod. Ewch i’n tudalen datblygiadau newydd am fwy o wybodaeth.
Rydym yn cynorthwyo cwsmeriaid i gael mynediad i gartrefi sy’n fforddiadwy iddynt ac yn cynnig ystod o eiddo a daliadaethau i gyflawni hyn. Rydym hefyd yn darparu ystod o wasanaethau cymorth i gynorthwyo deiliaid contract i gynnal eu cartref, eu tenantiaeth a’u hannibyniaeth.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac o ansawdd uchel i holl ddefnyddwyr ein gwasanaeth.
Yn 2015 sefydlodd Cartrefi Conwy Creu Menter C.I.C. fel is-gwmni sy’n eiddo llwyr ac sy’n gweithredu fel menter cymdeithasol.
Last modified on Tachwedd 30th, 2022 at 5:42 pm