Croeso i’n Strategaeth Effaith Gymdeithasol 2022-2025

Croeso i’n Strategaeth Effaith Gymdeithasol 2022-2025

Croeso i’n Strategaeth Effaith Gymdeithasol 2022-2025

Mae creu effaith gymdeithasol barhaol, gadarnhaol ym mhopeth a wnawn yn rhan o’n pwrpas craidd yn Cartrefi Conwy; rydym am wneud y peth iawn a chyflawni ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf.

Rydym wedi gosod blaenoriaeth allweddol yn ein Cynllun Corfforaethol pum mlynedd er mwyn “Manteisio i’r eithaf ar ein Heffaith Gymdeithasol”. Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y bydd effaith gymdeithasol yn chwarae rhan allweddol wrth rymuso a datblygu tenantiaid yn ein cartrefi a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir ac i gyflawni’r newidiadau y mae ein tenantiaid am eu gweld yn eu cymdogaethau.

Cyflawnir hyn trwy wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau, a gweithio gyda’n tenantiaid, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid allweddol fel y gallwn greu newid cynaliadwy hirdymor gyda’n gilydd.

Mae’r strategaeth hon yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cefnogi ein cymunedau y tu hwnt i ddiben craidd landlord cymdeithasol. Mae’n darparu ffocws i sicrhau ein bod yn cyflawni lle mae’r angen mwyaf ac mae wedi’i llunio gan adborth oddi wrth denantiaid, rhanddeiliaid a chydweithwyr.

Dyma fideo cryno i roi blas i chi o’r hyn yr ydym am ei gyflawni …

 

Gallwch ddarllen y strategaeth lawn yma

Last modified on Mai 26th, 2022 at 4:00 pm