![]()
Adrian Johnson – Prif Swyddog Gweithredol Grŵp
Adrian Johnson yw Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Cartrefi Conwy. Mae’n gyfrifol am ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddod â mwy o incwm i Gartrefi Conwy drwy dyfu’r busnes a chreu cyfleoedd newydd. Mae’n aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig ac wedi gweithio yn y sector tai ers 15 mlynedd. Mae Adrian wedi bod gyda Chartrefi Conwy ers i ni ddechrau ym mis Medi 2008.
Rheolodd raglen Safon Ansawdd Tai Cymru, gan ofalu am werth mwy na £45m o fuddsoddiad tai i ddod ag eiddo Cartrefi Conwy i fyny i’r safon. Gwnaeth yn siŵr ein bod wedi llwyddo i gyflawni’r garreg filltir hon ym mis Rhagfyr 2012, gyda gwerth gwych am arian a chyflenwi o ansawdd. Ers 2013, mae Adrian hefyd wedi cyfarwyddo rhaglen atgyweiriadau ac eiddo gwag Cartrefi Conwy o ddydd i ddydd, gan greu Uned Cynnal a Chadw Adeiladau effeithlon ac effeithiol sy’n darparu gwerth am arian, arbedion sylweddol a gwasanaeth o safon i’n tenantiaid.
Ers 2016, mae Adrian wedi bod yn arwain ar y strategaeth dwf a’r gwasanaethau ar gyfer Creu Menter (is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Cartrefi Conwy). Cenhadaeth Creu Menter yw bod yn “gontractwr cymdeithasol o ddewis” sy’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw eiddo, rheoli cyfleusterau ac adeiladu newydd i gleientiaid sector preifat a chyhoeddus. Ar yr un pryd, mae Creu Menter yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i denantiaid Cartrefi Conwy allan o waith. Mae creu menter yn tyfu o nerth i nerth, gyda throsiant cynyddol wedi’i ail-fuddsoddi mewn swyddi a hyfforddiant.
Yn 2023, daeth Adrian yn Ddirprwy Brif Weithredwr y Grŵp, ac yn 2025 daeth yn Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp.
Last modified on Awst 5th, 2025 at 2:43 pm