Yn niweddar mae Llywodraeth Cymru wedi newid y Fframwaith Rheoleiddiol maent yn ei ddefnyddio wrth werthuso Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
Mae’r Fframwaith yn rhoi strwythur y dylai’r Bwrdd a’n Rhanddeiliaid ei ddefnyddio i gael sicrwydd ein bod yn ‘gwneud y pethau iawn’ i gyflawni ein diben cymdeithasol craidd.
Mae’r Fframwaith Rheoleiddiol newydd yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar:
- Cadernid: Canlyniadau ac ansawdd y dystiolaeth;
- Tenantiaid: Cyfleoedd i gynnwys, dylanwadu a dal landlordiaid i gyfrif;
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chynhwysiant: Yn gosod ac yn cyflawni ymrwymiadau mesuradwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y mae’n gweithio ynddynt a gyda nhw.
- Cynhyrchu Cynllun Gwella ac ymrwymo i’w gyflawni.
Yna cyhoeddir Dyfarniad Rheoleiddio ar gyfer Llywodraethu a Hyfywedd Ariannol. Disgrifir y statws yn yr un ffordd yn y ddau achos ac fe’u nodir fel y canlynol:
Cydymffurfio: Gwyrdd – Mae’r gymdeithas yn bodloni’r safonau reoleiddiol a bydd yn cael goruchwyliaeth reoleiddiol arferol.
Cydymffurfio: Melyn – Mae’r gymdeithas yn cwrdd yn rhannol â’r safonau rheoleiddio ac mae ganddi’r potensial i allu cyflawni’r gwelliannau gofynnol gyda mwy o oruchwyliaeth reoleiddiol.
Ddim yn Cydymffurfio: Ambr – Mae’r gymdeithas yn cwrdd yn rhannol â’r safonau rheoleiddio ac mae’n annhebygol o allu cyflawni’r gwelliannau gofynnol heb ymyrraeth reoleiddiol.
Heb fod yn Cydymffurfio: Coch – Nid yw’r gymdeithas yn rhannol neu’n gyfan gwbl yn bodloni’r safonau rheoleiddio ac mae’n angenrheidiol i’r rheoliadol gymryd camau statudol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ddyfarniadau Rheoliadol YMA
Cyhoeddwyd adroddiad Barn Reoleiddio a Dyfarniad Hyfywedd Ariannol diwethaf Cartrefi Conwy ddydd Iau 13 Hydref 2023 a gellir ei ddarllen trwy’r dolenni canlynol yma
Last modified on Awst 21st, 2025 at 2:43 pm