‘Creu cymunedau i fod yn falch ohonynt’ fu’n gweledigaeth o’r dechrau, ac mae hynny’n dal yr un mor berthnasol heddiw. Rydym yn hynod o falch o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni dros y 12 mlynedd diwethaf ac mae ein llwyddiannau’n dangos y gallwn wneud pethau gwych pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.
Roeddem eisiau gofalu fod pawb sy’n ymwneud a ni yn cael cyfle i ddylanwadu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud a lle’r ydym yn mynd. Cyd-gynhyrchwyd y cynllun hwn gyda mewnbwn gwerthfawr ein tenantiaid, cydweithwyr, Aelodau Bwrdd a sefydliadau partner eraill.
Mae 7 blaenoriaeth i’r cynllun hwn, mae rhai ohonynt yn barhad o’r hyn yr ydym wedi’i wneud erioed, a rhai â’r nod o wella’r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud.
Gallwch weld fersiwn cryno o’n cynllun busnes isod, neu ei lawrlwytho fan hyn.
Last modified on Ebrill 1st, 2021 at 5:07 pm