Swyddogaeth y Bwrdd
Prif bwrpas Cartrefi Conwy fel Cymdeithas Tai yw darparu a rheoli tai a chefnogi pobl sydd â’r angen fwyaf.
Mae gweledigaeth a gwerthoedd y sefydliad wedi’u gosod gan y Bwrdd. Grŵp o bobl sydd yn gyfrifol am ddatblygu pwrpas y busnes a sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn briodol ydyw.
Mae’r Bwrdd yn atebol i’n gweithwyr, ein tenantiaid a phobl eraill sydd yn defnyddio ein gwasanaethau, i’r rheiny sydd yn benthyca arian i’r sefydliad ac i sefydliadau eraill sydd yn chwarae rôl bwysig wrth fodloni anghenion o ran tai, megis awdurdodau lleol.
Mae’n rhaid i’r rheiny sydd yn cael eu penodi yn aelodau o’r Bwrdd a’r Pwyllgor weithredu er budd gorau’r sefydliad a’r rhai hynny mae’n eu gwasanaethu.
Hefyd mae gan Cartrefi Conwy is-gwmni, Creu Menter.
Mae ein Byrddau a Phwyllgorau wedi’u trefnu fel a ganlyn;
Mae Bwrdd Cartrefi Conwy yn cynnwys 10 o bobl sydd wedi’u penodi oherwydd y sgiliau a’r profiad maent yn gallu eu cynnig.
Bydd rhai pobl a benodir i’r Bwrdd yn gwasanaethu hefyd ar un neu fwy o Bwyllgorau.
Mae'r pobl canlynol wedi ei apwyntio i fwrdd Creu Menter.
Last modified on Tachwedd 25th, 2020 at 11:00 am