Addewid ein cydweithwyr i chi, ein cwsmer
Rydych yn unigolyn- Rydym yn gwybod bod ein cwsmeriaid i gyd yn wahanol felly byddwn yn rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth rydych ei angen
Byddwn yn:
- Cysylltu â chi yn y ffordd mwyaf cyfleus i chi
- Defnyddio’r iaith o’ch dewis chi
- Defnyddio iaith glir a syml
- Cydnabod anableddau neu pan fyddwch angen cymorth
Mae’r argraff gyntaf yn cyfrif – Byddwn yn gyfeillgar ac yn hawddgar.
Byddwn yn:
- gwenu,
- gofyn am eich enw; ac yn
rhoi ein enw i chi
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi – We’ll keep in touch and make sure you know what to expect next
Byddwn yn:
- cadarnhau apwyntiadau neu pan fyddwn yn cysylltu â chi nesaf
- dweud wrthych os byddwn angen newid apwyntiadau
- bod yn agored a gonest
rhoi rheswm dros benderfyniadau
Mae’r hyn rydych yn ei ddweud yn bwysig – Byddwn yn gwrando i ddeall beth rydych ei angen gennym. Byddwn yn gwneud y peth iawn ac yn sicrhau ein bod yn cael ateb i chi.
Byddwn yn:
- cadarnhau’r hyn rydych wedi’i ddweud wrthym fel eich bod yn gwybod ein bod yn deall
- agwedd gadarnhaol
- cael y person iawn i ddatrys eich cwestiwn
- cadw nodiadau ysgrifenedig o’r hyn rydych yn ei ddweud wrthym
Rydych yn bwysig i ni – Mae sut rydych yn teimlo yn bwysig a byddwn yn eich trin â pharch. Byddwn yn ei gwneud yn hawdd i chi gysylltu â ni.
Byddwn yn:
- siarad yn glir ac yn dawel
- gweld y sefyllfa o’ch safbwynt chi
- sicrhau eich bod yn deall
- rhoi gwybodaeth gywir i chi
- dweud lle arall gallwch ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth
Rydym am i chi ei chael hi’n hawdd cysylltu â ni. Felly, pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn sicrhau ein bod yn dod yn ôl atoch chi, dyma’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni:
- Os byddwch yn ysgrifennu atom (trwy lythyr, e-bost neu drwy MyCartrefi), byddwn yn cydnabod eich cyswllt o fewn 3 diwrnod ac yn rhoi ymateb llawn i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
- Pan fyddwch yn ffonio ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid, ein nod yw ateb eich galwad o fewn 60 eiliad.
- Os bydd angen i gydweithiwr eich ffonio’n ôl, byddwn yn cytuno dyddiad ac amser sy’n addas i chi. Bydd hyn o fewn 24 awr lle bo modd.
- Os bydd cydweithiwr yn dod i ymweld â chi, byddant yn trefnu dyddiad ac amser sy’n addas i chi. Bydd hyn o fewn 7 diwrnod gwaith lle bo modd.
Last modified on Tachwedd 25th, 2020 at 11:11 am