Rydym yn credu os ydych yn iach y gallwch ganolbwyntio ar fod yn wych a chyflawni ein haddewidion i’n cwsmeriaid. Bydd gennych y dewis o gael mynediad at ein cynllun arian parod gofal iechyd os ydych yn ymuno â ni gyda rhaglen cymorth i weithwyr. Yma yn Cartrefi rydym yn canolbwyntio cymaint ar eich iechyd corfforol â’ch iechyd meddwl ac rydym wedi ymrwymo i fenter Amser i Newid Cymru i ddinistrio unrhyw stigma neu wahaniaethu. Gyda’n gilydd, rydym wedi datblygu strategaeth lles sy’n gysylltiedig â’r ‘pum awgrym llesol’ i’ch cynorthwyo i aros ar eich gorau tra byddwch yn gweithio i ni.
Yn Cartrefi Conwy rydym yn gwybod fod gennych fywyd y tu allan i’r gwaith, dyna pam fod gennym ystod o bolisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd sy’n cefnogi nid yn unig y teuluoedd ifanc ond gydag ystod o faterion teuluol gan gynnwys y rhai gyda chyfrifoldebau gofalu. Mae nifer o bobl yn gweithio’n hyblyg gyda ni, felly os ofynnwch chi, ac fe allwn ni ei wneud yn addas ar gyfer y busnes, yna byddwn yn ei roi ar waith.
Rydym yn credu fod gan bawb gyfraniad i’w wneud a bydd cyfraniad pawb yn darparu rhywbeth gwahanol, yn seiliedig ar eich profiad a’ch dysgu yn ystod eich bywyd ac ni ddylech fyth roi’r gorau i ddysgu! Rydych y math cywir o berson i weithio i ni os ydych chi’n credu y gallwch ddysgu rhywbeth newydd a gwella’r hyn yr ydych yn ei wneud ac yn ei ddarparu. Rydym yn credu mai dyma’r rysáit er mwyn darparu gwell gwasanaethau i’n cwsmeriaid a gallu gwneud y mwyaf o’n hadnoddau. Dyna pam ein bod ni yn Cartrefi Conwy yn buddsoddi yn eich nodau datblygiad personol lle bynnag y bo modd a byddwn oll yn elwa gyda’n gilydd!
Rydym yn gwybod y bydd yr arian yr ydych yn ei ennill am weithio’n galed yma yn Cartrefi Conwy mor bwysig â’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwch ei wneud i fywydau pobl. Dyma pam yr ydym yn meincnodi ein cyflogau yn erbyn y farchnad bob dwy flynedd ac yn ystyried cynnydd yng nghostau byw yn flynyddol. Rydym hefyd yn ceisio gwneud y mwyaf o’r arian yr ydych yn ei gael gyda’n cynllun arian parod gofal iechyd ac cynllun beicio i’r gwaith.