The Cartrefi Experience
Gall fod yn anodd dewis gyrfa, yn ffodus, rydym yn deall hynny ac yn cynnig i chi ‘roi cynnig arni cyn prynu’. Gallwch wneud cais am gyfnod o brofiad gwaith yn y maes sydd o ddiddordeb i chi ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu profiad gyrfaol gwerthfawr a fydd yn gymorth i chi gynllunio eich camau nesaf yn y dyfodol.

Mae ein tîm gofalgar a thosturiol yn cydnabod y pwysigrwydd o weithio’n agos gyda’n tenantiaid hŷn a diamddiffyn i sicrhau eu bod yn parhau yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain i gael bywyd hapus ac iach.

Mae ein crefftwyr yn darparu lefelau ansawdd rhagorol boed yn golygu gosod cegin newydd neu atgyweirio boeler, gydag ystod o wybodaeth a phrofiad, ein nod yw ‘Ei wneud yn gywir y tro cyntaf’.

Mae pob diwrnod yn ddiwrnod newydd i gyflawni ein ‘Haddewid Cwsmer’ ar gyfer y tîm hwn. Gan ymateb i alwadau ac ymholiadau gan gwsmeriaid i sicrhau bod pryderon yn cael eu lleddfu a bod gwaith yn cael ei gyflawni.

Dyma’r tîm gyda’r syniadau mawr, y cynllunwyr sy’n troi gweledigaeth yn realiti i ddatblygu tai a chymunedau sy’n addas i bwrpas ar gyfer y genhedlaeth hon a’r dyfodol.

Y rhai sy’n cadw’r olwyn yn troi. Mae ein Gwasanaethau Cefnogi yno i sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu cefnogi a bod cyllidebau wedi’u mantoli i ddarparu’r gorau y gallwn i’n cwsmeriaid.

Mae cryn dipyn o waith yn cael i gyflawni i sicrhau bod cwmni’n ddilys, a dyma rôl ein tîm Llywodraethu. O gyfreithlondeb i elfennau technegol, mae’r tîm yma’n gwybod y cyfan, gan weithio’n agos gyda’n gweithredwyr i sicrhau ein bod yn darparu’r safonau gorau posibl i’n cwsmeriaid.

Mae’r byd yn un mawr ac mae’n bwysig fod gennym lais. Mae ein tîm cyfathrebu a marchnata yn rhoi llais i ni a chodi ein proffil, ond hefyd maent yn cynllunio digwyddiadau cwsmer gyda llwyddiant gwych ac maent wrth law bob amser i sicrhau ein bod yn derbyn yr achrediad yr ydym yn gweithio mor galed i’w gyflawni.

Yn yr oes o dechnoleg, mae’r tîm yn dal i fyny â’r diweddaraf. Gan lansio mentrau newydd er budd cwsmeriaid ynghyd â’r cwmni i wneud i wneud y busnes ychydig yn llyfnach.
P’un a ydych yn ddisgybl ysgol, myfyrwyr neu oedolion sy’n chwilio am gael blas go iawn o fywyd gwaith yn Cartrefi Conwy, mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael.
Dywedwch wrthom beth ydych yn chwilio am gan gwblhau y ffurflen hwn
Last modified on Awst 28th, 2020 at 2:32 pm