Mae yna gap newydd ar fudd-daliadau a all effeithio arnoch chi. Mae’r cap budd-daliadau’n gyfyngiad ar gyfanswm y ‘lles’ y gall pob aelwyd ei gael.
Y cap is newydd fydd:
• £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) i hawlwyr sy’n gyplau, teuluoedd a rhieni sengl
• £257.69 yr wythnos i oedolion sengl heb blant.
Os ydych yn poeni ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi, yna cysylltwch â’n Tîm Incwm ar 0300 124 0040 neu ewch i http://www.takecontrol.wales/default.aspx
Mwy o wybodaeth am y newid: https://www.citizensadvice.org.uk/…/thebenefit-cap-what-y…/…
CYMRYD RHEOLAETH
Yng Nghartrefi Conwy, mae gennym dîm cefnogi ymroddedig sy’n cynnig help i’n holl denantiaid ac aelwydydd ar draws y rhanbarth, i helpu i wirio eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau rydych â hawl i’w cael.
Maent hefyd yn rhoi awgrymiadau a chyngor ar:
• Gyfrifon banc
• Cyllidebu
• Rheoli eich arian
• Benthyca arian
• Osgoi dyled – yn enwedig gyda benthycwyr carreg drws a benthycwyr stryd fawr eraill
• Delio gyda dyled
• Cael gafael ar y disgowntiau gorau
Mae’n canolbwyntio ar eich helpu chi i gymryd rheolaeth a gwneud y mwyaf o’ch arian, nawr ac yn y dyfodol. Beth am ein galw ni heddiw a siarad ag un o’n Haelodau Tîm Cynhwysiant Ariannol ymroddedig. Mae pob trafodaeth yn gyfrinachol a gall y tîm ddod i’ch gweld gartref neu’n gallu eich cyfarfod yn un o’n swyddfeydd, beth bynnag sy’n eich gweddu orau. Ffoniwch ni ar 0300 124 0040 a gofynnwch i gael siarad ag Amanda neu Katie, neu gadewch neges iddynt eich ffonio’n ôl.