Tai Cymdeithasol gyda Cartrefi Conwy

Beth yw tai cymdeithasol?

Darperir Tai Cymdeithasol gan Gynghorau Lleol a Chymdeithasau Tai, ar gyfraddau sy’n fforddiadwy i’r rhai hynny ar incymau isel.  Mae cofrestru ar gyfer tai cymdeithasol yn dibynnu ar aelwyd yr ymgeisydd yn bodloni’r angen am dŷ, fel y diffinnir yn y polisi gosod.

Sut i wneud cais am dai cymdeithasol

Gallwch wneud cais am dai cymdeithasol trwy gysylltu â’r tîm cartrefi o 0300 124 0050. Bydd Datrysiadau Tai Conwy yn defnyddio proses o’r enw SARTH (Llwybr Mynediad Sengl i Dai) sy’n golygu mai dim ond un cais sydd gennych i fynd ar y Gofrestr Dai ar gyfer pob cartref cymdeithasau ar draws sir Conwy.

Bandiau Tai

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yn eich ffurflen gais i asesu pa fand tai sy’n addas i chi. Sef:

Band 1

  • Angen dybryd am dŷ – Cysylltiad lleol (ac eithrio mewn un achos, gwelir isod)
  • Pobl gydag angen meddygol dybryd e.e. yn yr ysbyty a methu dychwelyd i’w cartref cyfredol
  • Pobl sydd ag angen dybryd i symud i eiddo wedi’i addasu
  • Os yw eich cartref wedi’i ddifrodi gan drychineb
  • Rhywun sy’n gadael y lluoedd arfog ac eisiau llety
  • Achosion lle mae person ifanc yn gadael gofal neu mewn perygl o fynd i ofal
  • Tenant cyfredol â gormod o ystafelloedd gwely ac yn barod i gymryd eiddo llai
  • Tenant cyfredol ag eiddo wedi’i addasu nad ydynt ei angen mwyach
  • Yn ddigartref ac yn dianc rhag trais neu fygythiad o drais (nid oes angen cysylltiad lleol)
  • Achosion eithriadol eraill o angen dybryd

 Band 2

  • Angen am dŷ – Cysylltiad lleol
  • Person sy’n anfwriadol ddigartref
  • Angen meddygol dybryd a effeithir gan eu tŷ
  • Pobl yn byw mewn tŷ cyflwr gwael iawn, neu sy’n byw mewn tŷ gorlawn
  • Pobl yn byw mewn eiddo sydd heb gyfleusterau hanfodol, e.e. toiled
  • Rhywun angen eiddo wedi’i addasu
  • Pobl sy’n dioddef caledi oherwydd eu tŷ e.e. rhywun sydd angen symud i gael cefnogaeth hanfodol

 Band 3

  • Angen am dŷ – Dim cysylltiad lleol
  • Pobl gydag angen meddygol dybryd e.e. yn yr ysbyty a methu dychwelyd i’w cartref cyfredol
  • Pobl sydd ag angen dybryd i symud i eiddo wedi’i addasu
  • Os yw eich cartref wedi’i ddifrodi gan drychineb
  • Rhywun sy’n gadael y lluoedd arfog ac eisiau llety
  • Achosion lle mae person ifanc yn gadael gofal neu mewn perygl o fynd i ofal
  • Achosion eithriadol eraill o angen dybryd

 Band 4

  • Angen am dŷ – Dim cysylltiad lleol (ac eithrio mewn un achos, gwelir isod)
  • Person sy’n anfwriadol ddigartref
  • Angen meddygol dybryd a effeithir gan eu tŷ
  • Pobl yn byw mewn tŷ cyflwr gwael iawn, neu sy’n orlawn
  • Pobl yn byw mewn eiddo sydd heb gyfleusterau hanfodol, e.e. toiled
  • Rhywun angen eiddo wedi’i addasu
  • Pobl sy’n dioddef caledi oherwydd eu tŷ e.e. rhywun sydd angen symud i gael cefnogaeth hanfodol
  • Person sy’n fwriadol ddigartref (gyda neu heb gysylltiad lleol)

I ymgeisio am dai cymdeithasol, cysylltwch â Datrysiadau Tai Conwy:

Gallwch gysylltu â’r tîm drwy ein ffurflen ar-lein neu ffoniwch ni ar 0300 124 0050

Neu os byddai’n well gennych siarad â rhywun wyneb yn wyneb, dewch draw i Swyddfa Datrysiadau Tai Conwy rhwng 9.30 a 4.00 pm (Dydd Llun – Dydd Gwener):

Coed Pella,
Conway Road,
Colwyn Bay.
LL29 7AZ

 

Last modified on Chwefror 19th, 2020 at 1:50 pm