Gwybodaeth Pwysig
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gofyn yn fuan i bobl dros 70 oed hunan-ynysu hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw unrhyw symptomau Coronafirws.
Rydym yn sylweddoli y bydd hyn yn gyfnod anodd i’n tenantiaid hŷn ac rydyn ni am sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi chi trwy hyn.
Rydym wedi sefydlu tîm llesiant a fydd wrth law i’ch helpu gyda’r canlynol:
Siopa am fwyd a chyflenwadau hanfodol eraill
Casglu presgripsiynau hanfodol
Cyngor ar gasglu pensiynau a rheoli’ch arian wrth hunan-ynysu
Byddant hefyd wrth law i gael sgwrs i sicrhau eich bod yn gwneud yn iawn.
Gallwch ffonio ar 0300 124 0040.
Yn y cyfamser, dilynwch y canllawiau yma
Last modified on Mawrth 18th, 2020 at 4:56 pm