Gallwch gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd, boed trwy neilltuo amser sbâr neu bum munud i ymateb i holiadur neu i ymuno â chlwb neu grŵp; mae rhywbeth i bawb.
Mae ein digwyddiadau cyhoeddus arferol wedi ei ohirio ar y funud. Ond mae ein tîm Ymgysylltu ar Gymuned yn brysur yn cynnal sesiynau ar-lein gyda’n tenantiaid, hên ac ifanc, gan eu cadw’n egnïol wrth aros gartref gyda phopeth o ymarfer corff i bingo. Yn ogystal a digwyddiadau pellhau cymdeithasol wedi ei reoli yn ofalus, yn gymunedau lle mae rheolau yn gallu cael ei dilyn yn gaeth.
Cysylltwch â ni os hoffwch gymryd rhan. Dilynwch ein tudalen Facebook @Get Involved at Cartrefi / Cymryd Rhan gyda Cartrefi i gael ein holl fanylion sesiynau diweddaraf, gallwch hefyd anfon e-bost atom ar get.involved@cartreficonwy.org
Mae hefyd gennym strategaeth a chynllun gweithredu sy’n dangos sut y byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau a beth yw ein nodau ar gyfer y dyfodol. Os hoffwch chi edrych cliciwch yma am ein cynllun weithredu.
Mae yna nifer o ffyrdd y gallwn gyfranogi gyda Chartrefi Conwy. Cliciwch yma i ddweud wrthym sut yr hoffech gyfranogi – i wneud gwahaniaeth, i wella eich cyfleoedd neu i wirfoddoli.
Dewch i wybod mwy am weithgareddau Canolfan Gymunedol, grwpiau cymunedol, prosiectau cymunedol, sesiynau gwybodaeth ac ymgynghoriadau cymdogaeth wrth eich ymyl chi.
Rydym yn cynnig digwyddiadau a gwasanaethau arbennig i’n tenantiaid hŷn i gyfranogi.
Os ydych eisiau gwella eich cyfleoedd gall ein Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned eich cyfarfod i drafod ffordd ymlaen.
Dewch i wybod mwy am gyllid, grantiau a chymorth arall sydd ar gael.
Bydd y Tîm Cyfranogiad Cymunedol yn gweithio gyda chi i helpu i wella ein gwasanaethau a gwneud gwahaniaeth yn eich cymdogaeth. Dewch i gyfarfod aelodau o’r tîm yma.
Ers nifer o flynyddoedd rydym wedi buddsoddi arian i wella mannau gwyrdd agored yn ein cymunedau; o welliannau bach megis storfa biniau newydd i brosiectau adfywio o raddfa fawr, darllenwch mwy.
Os hoffech gymryd rhan man digwyddiadau yn y gymuned, mae amserlen lawn ar gael
Last modified on Medi 11th, 2023 at 12:56 pm