Croeso i adran Prydlesau ein gwefan, lle rydym yn rhoi gwybodaeth a dolenni cyswllt i’n cwsmeriaid, er mwyn iddynt gael gafael ar amrywiaeth o’n gwasanaethau. Yn yr adran hon cewch hyd i gyflwyniad i’ch tîm a rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am fod yn brydleswr; rydym yn gobeithio y bydd hyn yn eich helpu gyda rheolaeth o’ch cartref ac yn ateb eich cwestiynau.
Mae byw mewn fflat ar brydles ychydig yn wahanol i fyw mewn tŷ, ac mae byw yn agos i gymdogion yn golygu bod gennych ystyriaethau ychwanegol. Byddwch yn rhannu ardaloedd cymunedol a chyfleusterau, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o sut y gall eich gweithrediadau effeithio eraill sy’n byw yn eich adeilad.
Rydym wedi ceisio cynnwys gymaint o wybodaeth â phosibl, ond byddwn yn pwysleisio mai canllaw yw hwn yn unig, gan nad ydyw’n ddehongliad llawn o’ch prydles neu’r gyfraith. Gan fod pob prydles yn unigryw, nid ydym yn gallu rhoi canllaw cynhwysfawr o’ch hawliau a’r rhwymedigaethau sydd yn eich prydles bersonol eich hun yma.
D.S. Os ydych yn brydleswr masnachol, yna bydd eich prydles yn wahanol i’r mathau eraill sydd gennym. Os ydych yn dymuno trafod eich prydles, cysylltwch â’n Swyddog Prydlesau am gymorth.
Mae ein tîm cyfeillgar yn hapus i helpu ateb eich ymholiadau, ac yn croesawu eich adborth a’ch sylwadau i’n helpu i wella’r gwasanaeth a gewch chi.
Mae prydles yn gontract rhwymol gyfreithiol rhyngoch chi (y prydleswr) a Chartrefi Conwy (eich landlord a'r rhydd-ddeiliad). Mae’n nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau chi a’ch landlord.
Mae Cartrefi Conwy’n gyfrifol am gynhaliaeth a chynnal a chadw’r prif strwythur ac ardaloedd cymunedol yr adeilad neu’r bloc rydych yn byw ynddo. Mae prydleswyr yn gyfrifol am waith atgyweirio a chynhaliaeth sydd y tu mewn i'w fflatiau eu hunain.
Taliadau Gwasanaeth yw eich cyfran chi o’r costau cyffredinol am reoli’r adeilad, y cynllun neu’r stad lle rydych yn byw. Maent hefyd yn cynnwys y gost am wasanaethau rydym ni’n eu rhoi, a’r rhai rydym yn cyflogi contractwyr i’w gwneud, fel cynnal a chadw tiroedd.
Bydd ein tîm prydlesau bob amser yn ceisio'ch helpu gydag unrhyw gwestiynau a all fod gennych. Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn, e-bost neu maent hefyd yn hapus i drefnu i’ch cyfarfod wyneb yn wyneb yn ein swyddfeydd neu eich cartref.
Mae yna sawl ffordd wahanol o dalu. Dewch i wybod mwy yma.
Last modified on Medi 3rd, 2020 at 5:10 pm