Taliadau Gwasanaeth

Mae pob taliad gwasanaeth rydym yn gofyn amdanynt gan brydleswyr yn cael eu gwneud yn unol â’r brydles.

Taliadau Gwasanaeth yw eich cyfran chi o’r costau cyffredinol i reoli’r adeilad, y cynllun neu’r stad lle rydych yn byw. Maent hefyd yn cwmpasu’r gost ar gyfer gwasanaethau rydym yn eu rhoi, a’r rhai rydym yn cyflogi contractwyr i’w gwneud, fel cynnal a chadw tiroedd.

Gall taliadau gwasanaeth hefyd gynnwys costau am atgyweiriadau neu waith mawr a chylchol, fel paentio, ac maent yn cael eu cyfrifo bob blwyddyn. Ar hyn o bryd mae’r flwyddyn taliadau gwasanaeth yn dechrau 1 Ebrill bob blwyddyn.

Bydd Cartrefi Conwy’n rhoi amcangyfrif o gostau i brydleswyr am redeg eu bloc o ddydd i ddydd, ar ddechrau’r flwyddyn. Ym Medi byddwn yn rhoi’r anfoneb derfynol am y flwyddyn flaenorol. Mae esiampl o beth allwn godi tâl amdanynt isod (nid yw’r rhestr hon yn gynhwysol):

  • Rhent tir, ar hyn o bryd yn £10 y flwyddyn;
  • Atgyweiriadau mân o ddydd i ddydd a chynnal a chadw’r blociau o fflatiau;
  • Costau trydan ar gyfer ardaloedd cymunedol;
  • Cynnal a chadw tiroedd ar gyfer ardaloedd cymunedol a/neu ardaloedd o amgylch eich bloc;
  • Tâl rheolaeth (ein costau i reoli fflatiau wedi’u prydlesu);
  • Yswiriant adeiladau;
  • Gwasanaethau gofalu a glanhau lle maent yn cael eu rhoi;
  • Cynnal a chadw’r ffôn yn y fynedfa lle bo’n berthnasol;
  • Cynnal a chadw’r lifft lle bo’n berthnasol;
  • Gwaith mawr a chylchol

Talu eich taliadau gwasanaeth

Mae yna nifer o ddulliau i chi ddewis ohonynt er mwyn talu eich taliadau gwasanaeth. Mae’n well gan y rhan fwyaf o brydleswyr dalu gyda Debyd Uniongyrchol bob mis, ond gallwch hefyd dalu gyda siec, arian parod neu gerdyn llithro, sy’n cysylltu â’n system dalu sy’n awtomataidd, ac y gellir ei ddefnyddio hefyd mewn pay points a swyddfeydd post.   I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Last modified on Mai 9th, 2017 at 4:04 pm