Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni.
Mae Cartrefi Conwy yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gyda thros 4,000 o eiddo mewn perchnogaeth a rheolaeth ledled ardal Gogledd Cymru. Ein prif amcan busnes yw darparu a rheoli tai a gwasanaethau cysylltiedig i gefnogi pobl mewn angen. Wrth ddarparu gwasanaethau o’r fath bydd angen i Cartrefi Conwy gael, dal a phrosesu rhywfaint o wybodaeth bersonol am y bobl rydym yn darparu gwasanaethau iddynt neu’n gweithio gyda hwynt (eu data personol).
Mae cynnal diogelwch eich data yn flaenoriaeth yn Cartrefi Conwy ac rydym wedi ymrwymo i barchu eich hawliau preifatrwydd. Byddwn yn sicrhau ein bod ni a’r rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw ond yn prosesu eich data personol yn unol â’n buddiannau cyfreithlon ac rydym yn addo trin eich data yn deg ac yn gyfreithlon bob amser.
Ein nod yw bod yn dryloyw ynghylch pa ddata rydym yn ei gasglu am ein Cwsmeriaid a sut rydym yn ei ddefnyddio. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid yn darparu gwybodaeth i chi am y canlynol:
- sut rydym yn defnyddio eich data;
- pa ddata personol rydym yn ei gasglu;
- sut rydym yn sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei gynnal; ac
- eich hawliau cyfreithiol sy’n ymwneud â’ch data personol.
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid ar gael yn llawn trwy glicio ar y ddolen YMA:Polisi Preifatrwydd
Os oes angen copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmer arnoch mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, neu fformat gwahanol (fel print bras neu braille), rhowch wybod i ni trwy e-bostio: enquiries@cartreficonwy.org. Cofiwch gynnwys “Hysbysiad Preifatrwydd Cwsmeriaid” fel testun eich e-bost.
Mae defnyddio a datgelu data personol yn cael ei lywodraethu yn y Deyrnas Unedig gan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data y DU 2018.
Cartrefi Conwy yw’r Rheolwr Data ac Ysgrifennydd Cwmni Cartrefi Conwy yw ei gynrychiolydd sydd wedi’i gofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i weithredu fel pwynt cyswllt i unigolion a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar faterion yn ymwneud â phreifatrwydd data.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch ansawdd (cywirdeb, perthnasedd, diffyg gormodol ayb) eich data personol neu’r ffordd y mae Cartrefi Conwy yn trin eich data personol, fe’ch anogir i’w codi gyda ni.
Cysylltu â ni
Ysgrifennydd y Cwmni, Cartrefi Conwy,
Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru,
Cae Eithin, Abergele LL22 8LJ
Ffon: 0300 124 0040 Ebost: enquiries@cartreficonwy.org
Last modified on Rhagfyr 7th, 2021 at 11:33 am