Cyfnewidfa Rentu Experian

Cyfnewidfa Rentu Experian

 

Rydym ni’n rhannu data gyda Chyfnewidfa Rentu Experian i helpu tenantiaid reoli eu tenantiaeth.  Dyma bolisi preifatrwydd Experian ar gyfer tenantiaid mewn perthynas â’r Gyfnewidfa Rentu.

 

Polisi Preifatrwydd y Gyfnewidfa Rentu

 

Nid yn unig y bydd Cartrefi Conwy yn medru gweithio’n agosach gyda chi i reoli eich cytundeb tenantiaeth presennol, ond bydd eich hanes blaenorol fel tenant yn galluogi Experian i ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir iddynt i gynorthwyo landlordiaid a sefydliadau eraill i:

 

  • Asesu a rheoli unrhyw gytundeb tenantiaeth newydd y gallech fynd yn rhan ohonynt
  • Asesu eich sefyllfa ariannol er mwyn darparu cynnyrch a gwasanaethau addas ar eich cyfer
  • Rheoli unrhyw gyfrif a allai fod gennych chi eisoes, e.e. adolygu cynnyrch addas neu ddiwygio eich cynnyrch yng ngolau eich amgylchiadau presennol
  • Cysylltu â chi mewn perthynas ag unrhyw gyfrif a allai fod gennych ac adennill dyledion a allai fod arnoch
  • Gwirio pwy ydych chi, eich oedran a’ch cyfeiriad, er mwyn cynorthwyo sefydliadau eraill wrth wneud penderfyniadau am y gwasanaethau y maent yn eu cynnig
  • Helpu i atal trosedd, twyll a gwyngalchu arian
  • Sgrinio cynigion marchnata er mwyn sicrhau eu bod yn addas at eich amgylchiadau
  • Galluogi Experian i ymgymryd â dadansoddiad ystadegol, dadansoddeg a phroffilio
  • Galluogi Experian gynnal profion system a chynnyrch a gweithgareddau prosesu cronfa ddata megis llwytho data, paru data a chysylltu data

 

Os hoffech chi weld mwy o wybodaeth ar y rhain, a deall sut mae asiantaethau cyfeirnod credyd yn defnyddio ac yn rhannu data rhentu fel data canolfan (gan gynnwys y buddiannau dilys y mae pob un yn eu dilyn), dilynwch y ddolen hon: www.experian.co.uk/crain (Hysbysiad Gwybodaeth Asiantaeth Gwirio Credyd (CRAIN)).

Am gopi papur, cysylltwch â ni neu Experian yn defnyddio’r manylion cyswllt yn y llythyr hwn.

Last modified on Ebrill 18th, 2019 at 1:26 pm