Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr yn ein Cynhadledd Cydweithwyr ym mis Rhagfyr, yn cydnabod ymdrech gwirioneddol a gwerthoedd gweithio yma yng Nghartrefi Conwy.
Roedd ein henillwyr fel a ganlyn – Jason Webster – Dadansoddwr Systemau Busnes a enillodd ein Gwobr Gwireddu’r Gwerthoedd.
Lydia Watson – Cydlynydd Cyfranogiad Cymunedol a enillodd ein Gwobr Syniadau Gwych.
Linda Holmes – Swyddog Ymgysylltu â Chwsmeriaid a enillodd ein Gwobr Cydweithiwr y Cydweithwyr.
Yn ogystal â’n henillwyr ffantastig, enillodd Jon Highcock o’n Tîm Incwm ein Gwobr Pencampwr Gwasanaeth Cwsmeriaid ar y diwrnod, am ei waith diflino bob dydd yn helpu ein tenantiaid.