Cyngor am Ddyledion

Mae bod mewn dyled yn achosi straen a gall fod yn anodd gwybod beth i wneud gyntaf, yn enwedig os ydych chi’n cael llythyrau a galwadau ffôn yn gyson gan y cwmnïau y mae arnoch arian iddynt.

Efallai eich bod yn ystyried cael benthyciad er mwyn talu’r arian sy’n ddyledus yn ôl, ond fe all hyn waethygu’r broblem pan fydd yna ddatrysiad gwell i chi.

Gallwch ddatrys unrhyw broblem ddyled os ydych chi’n manteisio ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael. Gall ein Tîm Cymorth Arian eich helpu drwy’r cyfnod anodd hwn, felly cysylltwch â nhw.

Mae gan y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lawer o wybodaeth am ddod allan o ddyled hefyd.

Mae gan Cyngor ar Bopethlawer o wybodaeth am ddod allan o ddyled hefyd.

GWYBODAETH BWYSIG

Mae nifer o’n tenantiaid wedi bod yn ddioddefwyr o fenthycwyr arian anghyfreithiol (benthycwyr arian didrwydded). Mae benthycwyr arian didrwydded yn fenthycwyr arian anghyfreithiol sydd yn aml yn codi cyfraddau llog uchel iawn.  Gallwch wirio os oes gan gwmni awdurdod i fenthyg arian ac i roi gwybod am fenthycwyr arian diawdurdod yn anhysbys.

Gwiriwch os ydi’r rhoddwr benthyciadau wedi cofrestru

Gallwch chwilio trwy Financial Services Register am gwmnïau ac unigolion sydd wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Rhoi gwybod am fenthyciwr arian didrwydded

Os ydych chi’n sylwi ar fenthyciwr arian didrwydded neu os ydych chi wedi benthyg arian gan un, gallwch roi gwybod amdanynt yn anhysbys.

Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru
imlu@cardiff.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 123 3311
Gwasanaeth 24 awr
Tecstiwch LOAN SHARK a manylion y benthyciwr i 60003

 

Last modified on Mawrth 9th, 2018 at 4:51 pm