Deddf Rhentu Cartrefi Cymru

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru

Newidiodd y ffordd yr ydych yn rhentu eich cartref yng Nghymru.

O 1 Rhagfyr 2022, mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) wedi newid sut rydych yn rhentu eich cartref. Mae’r gyfraith newydd hon yn effeithio ar bob landlord a thenant yng Nghymru. Bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn ei gwneud yn llawer haws i denantiaid rentu cartref yng Nghymru. Gwyliwch y fideo uchod neu darllenwch y daflen isod i ddarganfod mwy am yr hyn y mae’r prif newidiadau yn ei olygu i bobl sy’n rhentu. Un o’r newidiadau y bu’n rhaid i landlordiaid ei wneud yw cyhoeddi contract meddiannaeth i ddisodli’r denantiaeth neu’r cytundeb trwydded presennol cyn diwedd mis Mai 2023. Pan fyddwch yn cael eich un chi, cadwch ef yn ddiogel.

Anfonwch e-bost at rentinghomeswales@cartreficonwy.org os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am y newidiadau

 

 

Last modified on Mai 23rd, 2023 at 4:10 pm