Diogelu

Diogelu

Mae gan bawb yr hawl i fod yn

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, waeth pwy ydynt neu beth ydi eu hamgylchiadau. Mae diogelu yn ymwneud â diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed rhag eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Rydym oll yn gyfrifol am ddiogelwch aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.

Ceir amryw fathau o gamdriniaeth, gan gynnwys:

  • Corfforol neu emosiynol: gan gynnwys taro, slapio, cicio, ffrwyno, gwthio, llosgi, bwlio.
  • Rhywiol: gan gynnwys treisio, gwneud awgrymiadau annymunol, iaith neu wisg amhriodol.
  • Seicolegol: gan gynnwys gwaradwyddo, camdriniaeth lafar, arwahanrwydd, bygwth.
  • Ariannol a Materol: gan gynnwys dwyn, twyll, meddiant neu fudd-daliadau.
  • Gwahaniaethol: gan gynnwys gwahaniaethu ar sail rhywedd, oedran, crefydd, hil, anabledd, cenedligrwydd, a rhywioldeb.
  • Esgeulustod a gweithred neu anweithred: gan gynnwys defnydd gormodol neu annigonol o feddyginiaeth, gwisgo’n amhriodol, diffyg bwyd, diod neu wres. Diffyg gofal, anwybyddu eraill yr ymddengys eu bod yn cael eu cam-drin.

 

Peidiwch â chadw’n dawel!

Os ydych yn amau bod rhywun rydych yn eu hadnabod yn cael eu cam-drin – dywedwch wrth rywun.

Gallwch ddweud wrth unrhyw aelod o staff Cartrefi Conwy, sut bynnag y dymunwch wneud hynny. Gallwch ddweud wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd.

Cartrefi Conwy

Gallwch roi gwybod i ni drwy:

Ffonio: 0300 124 0040

E-bostio: enquiries@cartreficonwy.org

Gallwch ysgrifennu atom: Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Cae Eithin, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, LL22 8LJ

Neu gallwch ddweud wrth unrhyw aelod staff.

Tîm Mynediad Conwy

Gallwch ddweud wrth Dîm Mynediad Conwy drwy:

Ffonio: 0300 456 1111 Y tu allan i oriau: 01492 515 777     Ffacsio: 01492 576330

Neu e-bostio: wellbeing@conwy.gov.uk

Neu gallwch ysgrifennu atynt: Tîm Mynediad Conwy, Canolfan Hamdden Colwyn, Parc Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn. LL29 7SP

Last modified on Mehefin 25th, 2019 at 9:47 am