FE DDEWCH CHI O HYD I BOPETH Y BYDD ARNOCH ANGEN EI WYBOD AM EICH RHENT AR Y TUDALENNAU HYN, O SUT I DALU’CH RHENT I EGLURHAD O’CH CYFRIFLENNI RHENT.
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich rhent, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cysylltu â ni ar unwaith. Rydym yma i’ch helpu a byddwn yn asesu’r sefyllfa ac yn rhoi cymorth a chyngor i chi. Rydym eisiau gweithio gyda chi i’ch atal rhag mynd i ôl-ddyledion.
Wyddech chi y gallwch chi dalu’ch rhent ar lein drwy wefan Cartrefi ‘my cartrefi’?
Mae yna nifer o ffyrdd hawdd a chyflym i chi dalu’ch rhent gyda Cartrefi Conwy. Cewch wybod mwy yma.
Dysgwch sut y gall Cartrefi Conwy eich helpu os ydych chi’n cael trafferth talu’ch rhent.
Dysgwch bopeth rydych chi angen ei wybod am eich rhent yma.
Last modified on Ebrill 7th, 2021 at 3:52 pm