Cefnogaeth a Hyfforddiant Arbenigol

Cefnogaeth a Hyfforddiant Arbenigol

Gallaf weithio gyda chi i edrych beth yw eich nod a’r camau sydd eu hangen arnoch i gyrraedd y nod hwnnw. 

Os ydych eisiau gwella eich cyfleoedd gall ein Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned Lydia eich cyfarfod i drafod ffordd ymlaen.

Boed i ddatblygu eich hun yn bersonol neu fynd gam yn nes at gael gwaith, gallwn drefnu hyfforddiant mewn meysydd fel sesiynau cyfrifiadurol, lles meddyliol, cymorth cyntaf a hylendid bwyd.

Os oes unrhyw beth sydd o ddiddordeb i chi, edrychwch ar y dolenni isod neu cysylltwch a holwch ni!

Lydia Watson 0300 124 0040 neu e-bost Lydia.Watson@cartreficonwy.org

 

Sgiliau cyfrifiadurol a digidol – Yn yr 21ain Ganrif, mae’r cyfrifiadur yn frenin !! Mae’n ymddangos bod popeth wedi’i gysylltu ac mae’r rhan fwyaf o wybodaeth dim ond ar gael trwy gyfrifiadur – tabled neu ffôn. Gyda thechnoleg yn newid yn gyflymach ac yn gyflymach, teimlwn ei fod yn bwysig helpu pobl i addasu a dysgu’r sgiliau i ddefnyddio’r technolegau hyn i gael y gorau ohonynt. Felly, mae gennym amrywiaeth o sesiynau hyfforddi a all eich helpu i fynd ymlaen i ddysgu i gael mwy ohono, neu ddysgu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i gael gwaith.

Adeiladu hyder – Os ydych chi erioed yn teimlo’n rhy anhyderus i adael y tŷ, fynychu digwyddiad lleol, neu cymryd y camau cyntaf tuag at fynd i wirfoddoli neu gweithio, yna hoffem gynnig help llaw. Weithiau, mae’n cymryd ychydig o anogaeth trwy rywun y gallwch ymddiried ynddo i gael yr hyder i roi cynnig ar bethau newydd. Mae tîm Ymgysylltu ar Gymuned yn gwybod y gallai’r camau cyntaf hyn fod yn anoddach, felly mae gennym amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys ‘Delio â Straen’ ‘Mudiad Meddwl’ ‘Delio â Biliau’ ‘Gwneud i’ch arian fynd ymhellach’ ‘Coginio ar Gyllideb. Am y digwyddiadau diweddaraf ewch fan hyn 

 

Sgiliau gwaith – Gyda phob un o’r newidiadau yn y system llês, mae yna wthiad wirioneddol i bobl fynd yn ôl i waith. Yn aml iawn, gall hyn fod yn gam mawr ac yn hêr fwy, felly y gallwn eich cynorthwyo i gael eich sgiliau sylfaenol yn berffaith, adennill hyder, a’ch cyfeirio yn y cyfeiriad cywir ar gyfer cymorth arbennig. Yn ffodus, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda Creu Menter sydd â chyfleuster newydd gwych yn Mochdre yn cynnig lle hyfforddiant i denantiaid, chwilio am swydd, ac llawer mwy i’ch helpu i gael y sgiliau a’r profiad i ddychwelyd i gwaith. Cliciwch i ymweld a wefan Creu Menter

 

 

Last modified on Mehefin 15th, 2021 at 10:15 am