Stuart Haynes – Aelod cyd-benodedig annibynnol

Mae gan Stuart ystod eang o brofiad rheoli ar draws manwerthu, gwasanaeth cwsmeriaid, gweithrediadau a gwasanaethau ariannol.

Cafodd ei gymhwyso fel cyfrifydd rheoli yn 2008 ac mae wedi gweithio i Lloyds Bank, RSA Insurance ac ar hyn o bryd, Bank of New York Mellon.

Mae Stuart yn wreiddiol o Fanceinion ac yn byw yn Llandudno gyda’i wraig Rhian a’u dau blentyn. Mae’n mwynhau rhedeg, beicio a dysgu codio cyfrifiadurol gyda’i fab hynaf.

Mae Stuart wedi ymrwymo i sicrhau bod Cartrefi Conwy yn atebol i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu ac yn darparu’r gwerth mwyaf posibl iddi.

Last modified on Rhagfyr 1st, 2025 at 10:41 am