Matt Stowe – Swyddog Datblygiad Amgylcheddol
Rwy’n ddylunydd tirluniau yn ôl fy mhroffesiwn, ond rwyf wedi dod â fy sgiliau i helpu i ffurfio gweledigaeth y gymuned ar gyfer gwelliannau amgylcheddol fel Parc Peulwys, fflatiau Rock Cottages, sawl man gwyrdd cymunedol ym myngalos Bryn Eglwys, Bryn Castell, Ffordd Bugail, a llawer mwy. Rwy’n canolbwyntio’r mwyafrif o fy amser ar y cynllun gwelliannau amgylcheddol mawr nesaf ar stad Tre Cwm yn Llandudno. Rydw i’n gweithio’n agos gyda chymunedau, contractwyr ac asiantaethau i wneud yn siŵr bod fy nyluniadau’n gweithio i bawb. Mae fy ngwybodaeth wedi cael ei defnyddio hefyd i ddatrys materion gyda choed, gwrychoedd ac adeiladau newydd.
Last modified on Awst 28th, 2020 at 4:56 pm