Laura Thomas – Cydlynydd Cyfranogiad Cymunedol – Lleisiau@Cartrefi
Fy rôl yw gwneud yn siŵr bod “Lleisiau@Cartrefi” yn ffordd bwysig ac apelgar i denantiaid gyfranogi a chael dweud eu barn ar benderfyniadau sy’n gallu effeithio arnyn nhw. Rydw i’n gweithio gyda thenantiaid ar y Panel Trosolwg a Chraffu, yn cydlynu adolygiadau o wasanaethau Cartrefi Conwy. Rydw i hefyd yn gweithio gyda staff Cartrefi i nodi newidiadau posibl i’r ffordd rydym yn gweithio, a threfnu ymgynghoriadau gyda thenantiaid yn bersonol, drwy’r post, dros y ffôn a dros y rhyngrwyd, i gasglu eich safbwyntiau am y cynigion.
Last modified on Awst 28th, 2020 at 4:55 pm