Mae’r Panel Craffu a Throsolwg Tenantiaid yn ffordd wych i gyfrannu at y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn gan Cartrefi Conwy
Mae’r sesynau panel craffu ar doriad ar hyn o bryd. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu sesiynau yn y dyfodol neu os oes gennych gwestiynau pellach am y Panel Craffu, cysylltwch â Laura Thomas: laura.thomas@cartreficonwy.org
Beth yw rôl y Panel Craffu a Throsolwg?
Yn syml, mae’n rhoi cyfle i grŵp bach o denantiaid ymchwilio a chynnig sylwadau ar rai o’r gwasanaethau y mae Cartrefi Conwy yn eu darparu i denantiaid. Fel aelod o’r Panel Craffu a Throsolwg byddwch yn adolygu ac yn adrodd pa mor dda mae Cartrefi Conwy’n perfformio, yn eich barn chi, a byddwch yn rhoi argymhellion ar gyfer gwella yng nghyfarfodydd Pwyllgor Gweithrediadau Cartrefi Conwy.
Cylch Gorchwyl
Mae’r Panel Craffu a Throsolwg yn gyfansoddiad ffurfiol ac roedd tenantiaid yn rhan o’r broses o ddrafftio’r Cylch Gorchwyl a sefydlu eu rheolau. Mae’r panel yn cynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy (hyd at 12 ar y tro) a chaiff Cadeirydd ac Is-gadeirydd eu penodi bob blwyddyn. Nid yw’r rhai a benodir fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn gallu bod yn y naill swydd na’r llall am fwy na 3 blynedd yn olynol.
Bod yn gymwys i fod yn Aelod o’r Panel Craffu a Throsolwg
Mae tenantiaid Cartrefi Conwy’n gymwys i ymgeisio ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:
- Nad ydynt yn Aelod o Fwrdd Tenantiaid Cartrefi Conwy ar hyn o bryd
- Nad ydynt wedi torri amodau eu tenantiaeth
- Nad oes ganddynt gŵyn yng ngham adolygu annibynnol y polisi cwyno neu’n hawlio iawndal ar hyn o bryd
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â recriwtio ar gyfer y Panel Craffu a Throsolwg yn y Cylch Gorchwyl sydd ar gael os gofynnwch.
Pa mor aml mae’r Panel Craffu a Throsolwg yn cyfarfod?
Yn ogystal ag unrhyw weithgareddau hyfforddi bydd y panel yn cyfarfod i ddatblygu ei raglen waith a chynnal gweithgareddau adolygu’n gysylltiedig â’i feysydd craffu.
Bydd natur ac amlder cyfarfodydd y panel yn cael ei benderfynu gan y panel a Chartrefi Conwy. Disgwylir y byddant yn cael eu cynnal bob blwyddyn i ystyried tasgau’r panel. Bydd angen cynnal cyfres o gyfarfodydd / sesiynau ar gyfer pob adolygiad craffu, yn dibynnu ar y pwnc i sicrhau dealltwriaeth a chraffu trylwyr.
Ydi’r Panel Craffu a Throsolwg yn gweithio gyda Grwpiau Tenantiaid eraill?
Mae’n bosibl y bydd y Panel Craffu a Throsolwg yn awyddus i wneud ymchwil i wasanaeth penodol yn ystod adolygiad. Gall y panel dderbyn gwybodaeth gan denantiaid sydd wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriadau neu grwpiau ffocws pryd a phan fo angen.
Ydi Cartrefi Conwy yn cynnig Hyfforddiant?
Bydd pob aelod newydd o’r Panel Craffu a Throsolwg yn mynd ar raglen gynefino lle bydd anghenion hyfforddiant yn cael eu hasesu. Hefyd ceir arfarniad blynyddol a fydd yn canfod unrhyw anghenion hyfforddiant pellach bob blwyddyn. Bydd hyfforddiant, cefnogaeth a mentora priodol yn cael eu darparu.
Ydi Aelodau’r Panel Craffu’n derbyn Tâl?
Mae aelodau’r Panel Craffu a Throsolwg yn gweithio’n ‘wirfoddol’ sy’n golygu nad ydynt yn cael eu talu. Fodd bynnag, caiff unrhyw dreuliau yn gysylltiedig â gweithio ar ran Cartrefi Conwy eu had-dalu i aelodau’r panel.
Last modified on Awst 28th, 2020 at 5:03 pm