8-10 Ffordd Bugail

Rydym yn gweithio gyda Thîm Strategaeth Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i allu cynnig tai fforddiadwy i bobl leol.

Rydym wedi trawsnewid cyn swyddfa Galw Gofal, uwchlaw Canolfan Gymunedol Y Fron, yn 2 fflat dwy ystafell wely a fydd ar gael ar gyfer rhent canolradd.

Mae rhent canolradd yn rhoi cyfle i bobl sy’n gweithio cynilo ar gyfer blaendal i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Mae’r rhenti tua ugain y cant yn llai na’r un math o eiddo yn y sector preifat.

Mae ein cynlluniau dylunio trawsnewid yn ategu ac yn diogelu preifatrwydd y tai a’r ganolfan gymunedol o’u hamgylch. Bydd gan y fflatiau fynediad a pharcio ar wahân o’r ganolfan gymunedol.

Gallwch gysylltu a ein Adran Datblygiadau ni ar 0300 124 0040 am fwy o wybodaeth.