Prosiectau Darllen

Prosiectau Darllen

Mae gennym nifer o wahanol brosiectau darllen ar ledled y sir o helpu pobl ifanc â sgiliau darllen i rannu nofelau byr dros de a chacen. Mae’r sesiynau rhyngweithiol hyn wedi helpu i oresgyn rhwystrau, ond hefyd wedi adeiladau cyfeillgarwch parhaol.

Ers hydref 2016, mae myfyrwyr Blwyddyn Saith o Ysgol John Bright yn Llandudno wedi bod yn ymweld yn rheolaidd â datblygiad tai gwarchod Cartrefi Conwy, sef Cysgod y Gogarth sydd gerllaw, lle mae tenantiaid wedi bod yn eistedd i lawr gyda nhw i ddarllen dros y testun yn eu hoff lyfrau.

Ond, fel y mae pawb sy’n cyfranogi yn ei gytuno, mae’r Prosiect Darllen ar y Cyd yn golygu llawer mwy na deall y gair ysgrifenedig, ac mewn gwirionedd, mae’n helpu i bontio’r bwlch rhwng y cenedlaethau.

Dywedodd un o’r tenantiaid sy’n cymryd rhan, Pat Farley, bydwraig wedi ymddeol, sy’n 79 oed: “Mae’n helpu pobl ifanc ddarganfod bod darllen yn rhan bwysig o’u bywydau a bod y sesiynau’n dysgu ambell beth i ni hefyd am fywyd modern.”

Mae grŵp o tua deg disgybl Blwyddyn Saith, sy’n 11 a 12 oed, yn dod i mewn bob cwpl o fisoedd ar gyfer y sesiynau darllen. Maent yn dewis eu llyfrau eu hunain i ddod gyda nhw ac mae’r tenantiaid sy’n cyfranogi un eu clywed yn eu darllen, ac yn eu helpu nhw gyda rhai o’r geiriau ac atalnodi yn y testun. Mae’r sesiynau’n para am ddwy awr, gydag egwyl fer yn y canol am luniaeth.

Am fwy o wybodaeth am y prosiectau hyn neu unrhyw ddiddordeb arall sydd gennych mewn cysylltu â’ch cymuned, cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 0300 124 0040.

Last modified on Chwefror 12th, 2019 at 9:29 am