Awch am Fywyd

Awch am Fywyd

Mae Awch am Fywyd yn helpu pobl hŷn i wneud newidiadau bach yn eu bywydau i wella eu hiechyd a’u lles. Mae pobl ar y rhaglen hon yn myfyrio ar newidiadau ffordd o fyw y gallent eu gwneud, i symud o lle maen nhw nawr i lle’r hoffent fod, heb adael i’w hoedran neu allu corfforol eu rhwystro.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at ddod draw, gan fy mod i’n cael cyfarfod pobl newydd ac mae’r rhyngweithio’n wych. Rydw i hefyd yn dysgu sgiliau newydd a phethau bach pwysig fel diogelwch y cartref a diogelwch nad oeddwn i erioed wedi sylwi arno, pethau syml sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr wrth gadw’n ddiogel.”

Am fwy o wybodaeth am y prosiectau hyn neu unrhyw ddiddordeb arall sydd gennych mewn cysylltu â’ch cymuned, cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 0300 124 0040.

Last modified on Awst 21st, 2018 at 9:23 am