Mae Cyfrannu yn eich Cymuned yn gynllun gwirfoddoli, lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gyda’i sgiliau drwy ddefnyddio Bancio Amser. Rydym i gyd angen cefnogaeth gan rywun arall ar ryw adeg yn ein bywydau, ac mae Bancio Amser yn ffordd arloesol o gyflawni hyn. Mae’n ffordd o gyfnewid, gydag amser yn cael ei ddefnyddio fel arian. Am bob awr mae cyfranogwr yn ei roi yn y Banc Amser, efallai drwy roi cymorth ymarferol a chefnogaeth i eraill, maent yn gallu tynnu’r un faint o gefnogaeth allan mewn amser, pan fyddant ei hangen. Ym mhob achos, mae’r cyfranogwr yn penderfynu beth y gallant ei gynnig. Mae amser pawb yn gyfartal, felly mae un awr o fy amser i’n gyfartal ag un awr o’ch amser chi, waeth beth rydym yn dewis ei gyfnewid. Er enghraifft, gall rhywun sy’n siopa i aelod hŷn yna wario’r credyd amser hwnnw ar gael rhywun i dorri eu gwair.
“Rydw i’n ei chael hi’n llawer haws cael rhywun i smwddio fy nillad nawr, wedi i mi golli fy ngwraig.”
“Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi magu llawer o hyder, rydw i nawr yn rhedeg noson carioci yn y lolfa bob wythnos i ennill credydau amser.”
“Mae’n deimlad braf gallu helpu eraill.”
“Roeddwn yn gallu gweld fy ngŵr yn yr ysbyty diolch i aelod arall a oedd yn dod gyda mi ar y bysiau yno ac yn ôl.”
“Mae’n hawdd cael cymorth os ydym ni ei angen.”
Am fwy o wybodaeth am y prosiectau hyn neu unrhyw ddiddordeb arall sydd gennych mewn cysylltu â’ch cymuned, cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 0300 124 0040.
Last modified on Mehefin 15th, 2021 at 10:19 am