Mae Diwrnod Pobl Hŷn yn ddigwyddiad blynyddol i gydnabod a dathlu ein tenantiaid hŷn, sy’n digwydd yn Hydref. Mae’r digwyddiad yn cynnwys adloniant cerddorol, ein seremoni Gwobrau Pobl Hŷn, gweithdai ac arddangoswyr i hyrwyddo iechyd a lles a chinio am ddim, gyda chludiant.
“Mae’n rhoi’r hyder i mi ar gyfer y dyfodol wrth i mi fynd yn hŷn.”
“Mae’n rhoi mwy o hyder i mi yng Nghartrefi Conwy a’r teulu sy’n gweithio yno.”
“Daeth â’r gymuned at ei gilydd a chael pobl hŷn at ei gilydd.”
“Fe wnaeth cyfeillgarwch newydd fy wneud yn hapus iawn.”
“Gwybodaeth am beth sydd gan Gartrefi Conwy i’w gynnig, a diwrnod allan da iawn hefyd, diolch i chi.”
Am fwy o wybodaeth am y prosiectau hyn neu unrhyw ddiddordeb arall sydd gennych mewn cysylltu â’ch cymuned, cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 0300 124 0040.
Last modified on Gorffennaf 3rd, 2019 at 4:51 pm