Pan fyddwch yn adrodd am atgyweiriad, byddwn yn trefnu apwyntiad sy’n gyfleus i chi.
Y blaenoriaethau atgyweirio yr ydym yn gweithio iddynt yw:
- Atgyweiriadau argyfwng – hyd at 24 awr
- Atgyweiriadau brys – hyd at 7 diwrnod calendr
- Atgyweiriadau arferol – byddwn yn cytuno ar apwyntiad gyda chi a’n nod yw, ar gyfartaledd, gwblhau atgyweiriadau safonol o fewn 20 diwrnod calendr.
Atgyweiriadau argyfwng
Mae’r rhain yn atgyweiriadau sydd eu hangen i sicrhau eich bod chi, eich teulu a’r cyhoedd yn ddiogel. Weithiau byddwn yn gwneud gwaith trwsio dros dro o fewn 24 awr a byddwn yn trefnu apwyntiad dilynol i gwblhau’r gwaith.
Pan fyddwch chi’n adrodd am atgyweiriad, fe ofynnir nifer o gwestiynau i’n helpu ni i ddeall difrifoldeb y broblem. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn os gallwch chi anfon lluniau atom ac efallai bydd ein Cynghorwyr yn gofyn i chi dynnu lluniau a’u hanfon atom os gallwch. Os ydych chi’n adrodd am eich atgyweiriad drwy ddefnyddio MyCartrefi, gallwch lwytho’r lluniau wrth i chi gwneud y cais.
Mae atgyweiriadau argyfwng yn cynnwys pethau fel:
- gollyngiadau / llifogydd difrifol na ellir ei ddal mewn bwced neu bowlen dros nos
- prif ddraeniau wedi’u blocio, pibell carthion neu doiled unigol
- gollyngiad nwy; ond bydd hyn bob amser yn cael ei gyfeirio at Wales & West Utilities yn y lle cyntaf
- nam trydanol peryglus
- llifogydd neu ddifrod llifogydd difrifol
- difrod difrifol i’r eiddo sy’n ei gwneud yn anniogel
- Colli gwresogi neu ddŵr poeth yn ystod y gaeaf, neu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn lle ystyrir bod aelod o’r cartref yn fregus.
Atgyweiriadau arferol
Mae gwaith atgyweirio arferol yn cynnwys jobsys bach i atgyweirio neu amnewid pethau oherwydd ôl traul a gwisgo.
Mae atgyweiriadau arferol yn cynnwys pethau fel:
- Colli gwresogi neu ddŵr poeth yn ystod misoedd y Gwanwyn a’r Haf
- Draeniau wedi’u rhwystro, sinciau, basnau, toiled
- Mân ddiffygion trydanol
- Gwteri wedi’u rhwystro
- Lleithder difrifol
Apwyntiadau
Byddwn yn cynnig yr apwyntiad mwyaf addas i chi, gan ystyried y math o atgyweiriad sydd ei angen, eich argaeledd ac argaeledd ein crefftwyr. Mae hyn yn golygu y gallem gynnig apwyntiad y diwrnod canlynol neu hyd at 20 diwrnod i ffwrdd.
Yn dibynnu ar argaeledd, gallwn gynnig gwahanol fathau o apwyntiadau ac mae’n bwysig eich bod gartref yn ystod yr amser penodol fel na fyddwch yn colli ein crefftwyr.
– Trwy’r dydd (8am – 5pm)
– YB (8am – 12pm)
– YH (12pm – 5pm)
Last modified on Ebrill 1st, 2021 at 5:11 pm