Ar hyn o bryd rydym ar ganol ein datblygiad newydd yn Victoria Road a Vale Park, y Rhyl, sef ein datblygiad Tŷ Dyffryn.
Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei ddymchwel ddiwedd 2019, i wneud lle i dai fforddiadwy newydd eu hangen yn fawr i bobl leol yn y Rhyl.
Bydd y cynllun £2.6 miliwn hwn yn cynnwys 18 o fflatiau, 2 ystafell wely, 3 person ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.
Mae’r datblygiad mewn lleoliad delfrydol i amwynderau lleol, gyda thaith gerdded fer i ganol y dref, yr orsaf rheilffordd ac archfarchnadoedd lleol.
Prif gontractwr y cynllun hwn yw NWPS Ltd Construction.
Beth yw tai cymdeithasol?
Tai Cymdeithasol yw tai sydd wedi ei ddarparu gan Cyngorau Lleol ac Cymdeithasau Tai gyda cyfraddau sydd yn fforddiadwy i rai sydd a incwm isel. Mae cofrestru ar gyfer tai cymdeithasol yn dibynnu ar ymgeiswyr yn cyraedd ‘angen tai’
Sut i ymgeisio am dai cymdeithasol
Gallwch ymgeisio am dai cymdeithasol gan gwblhau ffurflen gais trwy Datrysiadau Tai Conwy.
Gallwch ddarllen y cylthlythyr tenantiaid diweddaraf yma.
Last modified on Ebrill 7th, 2021 at 4:00 pm