Cael Effaith

Ydych chi eisiau dweud eich dweud am y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu i chi? Os felly, gallwch wneud hyn mewn ffordd sy’n addas i chi, yn cynnwys arolygon ar-lein, arolygon post neu fynd i ddigwyddiadau ymgynghori.

Dyma rai ffyrdd mae tenantiaid wedi gallu cael effaith yn ddiweddar.

Y llynedd, ymatebodd dros 800 o denantiaid i arolygon i’n helpu i ffurfio ein Strategaeth Effaith Gymdeithasol.   Cafodd eu barn a’u syniadau eu casglu ac roedd hynny’n allweddol i greu’r strategaeth.  Gallwch ei gweld yma – https://cartreficonwy.org/about-us/croeso-in-strategaeth-effaith-gymdeithasol-2022-2025/?lang=cy/

Ym mis Ionawr, fe wnaeth bron i 100 o denantiaid ateb arolwg ar-lein am ein Strategaeth Gynaliadwyedd.  Fe wnaethant gyfrannu gwybodaeth werthfawr a helpodd ni i lunio’r strategaeth.  Rydym ni eisiau ffurfio grŵp Cynaliadwyedd Tenantiaid a fydd yn parhau i weithio gyda ni. Gallwch weld y strategaeth yma – https://cartreficonwy.org/about-us/key-policies/people-services/sustainability/ Neu os hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp cynaliadwyedd yn y dyfodol, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Ffurfiwyd y grŵp Edrych Ymlaen ym mis Mai ac mae’n gweithio gyda ni i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n dod i’r amlwg yn ein harolwg Bodlonrwydd.  Gallai eu gwaith cadarnhaol a’u dealltwriaeth nhw wneud newidiadau mawr i sut rydym ni’n gweithio.

Cafodd tenantiaid iau gyfle i weithio gyda Theatr Clwyd am bedwar mis i edrych ar amrywiaeth o ffurfiau celf gydag artistiaid lleol llwyddiannus ac i drafod materion tai.

Mae tenantiaid hefyd yn cael effaith ar sut mae ein gwasanaeth gofalwyr yn rhedeg, yn ein helpu i asesu ein safonau rheoleiddio a llawer mwy.

Cafodd tenantiaid iau gyfle i weithio gyda Theatr Clwyd am bedwar mis i archwilio amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol gydag artistiaid lleol llwyddiannus ac i drafod materion tai.

Mae tenantiaid hefyd yn cael effaith ar sut mae ein gwasanaeth gofalwyr yn rhedeg, gan ein helpu i asesu ein safonau rheoleiddio, a llawer mwy.

Last modified on Tachwedd 17th, 2022 at 12:42 pm