Tenant Voice

Llais y Tenant

Tenant Voice

Rydyn ni eisiau i’ch llais chi, y tenant, fod wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n gwybod bod gennych bethau anhygoel i’w cyfrannu, boed hynny yn eich cymuned eich hun neu wrth wneud gwahaniaeth i’r ffordd rydyn ni’n gweithio. Mae eich mewnbwn yn hollbwysig gan nad oes arbenigwr gwell na chi i’n helpu ni i wneud y peth iawn i chi, eich cartref a’ch cymuned. Dyna pam ein bod wedi buddsoddi yn ‘Clywed Llais y Tenant’ – mae’n ffordd y gallwch chi gymryd rhan a rhannu eich syniadau gyda ni.

Gallwch wneud hyn ym mha bynnag ffordd sydd fwyaf addas i chi, yn dibynnu ar faint o amser sydd gennych. Gall hyn amrywio o gwblhau arolwg yng nghysur eich cartref i ymgymryd â thasgau mwy manwl ochr yn ochr â’n cydweithwyr.

Edrychwch ar y dolenni isod i weld sut y gellir clywed eich llais

Beth sydd ynddo i chi?

Fe ofynnom ni i Sasha, ein Cydlynydd Llais y Tenant, am ei barn hi ynglŷn â pham mae cyfraniad tenantiaid mor bwysig. Dyma ddywedodd hi:

Rydyn ni eisiau clywed beth sydd gennych chi i’w ddweud! Mae eich cyfraniad chi’n bwysig i Cartrefi Conwy a bydd ei rannu gyda ni’n ein helpu i wella ein gwasanaethau, cael effaith fwy cadarnhaol a rhoi mwy yn ôl i chi, ein tenantiaid.

 

Mae adeiladu cymunedau diogel, cyfforddus a chysylltiedig yn hollbwysig. Rydym ni eisiau i chi fod ynghlwm gymaint ag rydych chi eisiau bod a rhoi cymaint o ffyrdd â phosib’ i chi gysylltu â ni. Rydym ni’n gwbl gyfforddus â chyswllt digidol, ac rydym ni’n mwynhau cyfarfod ein tenantiaid wyneb yn wyneb hefyd. Gallwch gael cyfleoedd i wneud hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, drwy wneud sylwadau am beth rydym ni’n ei wneud, hyd at fynd i gynadleddau tai a rhannu eich profiadau gyda thenantiaid eraill ar hyd a lled Cymru.

 

Rydym ni’n talu costau traul felly fyddwch chi ddim ar eich colled os ydych chi’n teithio i’n gweld ni neu’n teithio gyda ni i ddigwyddiad.

 

Mae ymgysylltu’n beth da i ni ac i chi. Mae’n edrych yn wych ar eich CV ac ar gyfer cyflogadwyedd gan ei fod yn dangos eich bod yn gwirfoddoli eich amser i greu gwell profiadau i bobl eraill yn eich cymuned.

Rydym ni eisiau clywed gennych chi beth bynnag fo’r rheswm. Rydym ni’n creu ffyrdd newydd i chi gyfathrebu â ni ac rydym ni’n edrych ymlaen i glywed beth sydd gennych i’w ddweud.

 

Last modified on Tachwedd 17th, 2022 at 12:42 pm