Mae ein Panel Tenantiaid Trosolwg a Chraffu yn ffordd wych o ddylanwadu ar y gwasanaethau rydych chi’n eu cael gan Gartrefi Conwy.
Mae’r panel craffu’n grŵp ffurfiol sy’n gweithio’n agos gyda ni i durio’n ddwfn i bynciau penodol. Er enghraifft, eu tasg fawr ddiwethaf oedd adolygu a gwneud argymhellion am ein gweithdrefnau diogelwch tân. Maent wedi dechrau cyfarfod eto a byddant yn mynd i’r afael â mwy o heriau mawr yn 2022 a 2023. Os hoffech chi glywed mwy am y Panel Craffu, cysylltwch ag Aimee ar aimee.corbett@cartreficonwy.org
Beth yw rôl y Panel Trosolwg a Chraffu?
Yn syml, mae gwaith craffu gan denantiaid yn galluogi grŵp bach o denantiaid i ymchwilio i, a gwneud sylwadau ar rai o’r gwasanaethau mae Cartrefi Conwy yn darparu i denantiaid. Fel aelod o’r Panel, byddwch yn adolygu ac yn adrodd ar ba mor dda mae Cartrefi Conwy’n gwneud yn eich barn chi, a rhoi eich argymhellion i wella yng nghyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Tenantiaid Cartrefi Conwy.
Cymhwystra i fod yn Aelod o’r Panel Trosolwg a Chraffu
Mae tenantiaid Cartrefi Conwy’n gymwys i ymgeisio os ydynt yn bodloni’r meini prawf canlynol:
- Nid ydynt yn Aelod o Fwrdd Tenantiaid Cartrefi Conwy ar hyn o bryd
- Nid ydynt yn torri amodau eu tenantiaeth
- Nid oes ganddynt gŵyn ar y cam adolygiad annibynnol yn y polisi cwynion na hawliad cyfredol am ddifrod.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â recriwtio i’r Panel Trosolwg a Chraffu yn y Cylch Gorchwyl, sydd ar gael ar gais.
Pa mor aml mae’r Panel Trosolwg a Chraffu’n cyfarfod?
Yn ychwanegol at unrhyw weithgareddau hyfforddiant, bydd y panel yn cyfarfod i ddatblygu ei raglen waith a chynnal gweithgareddau adolygu yn ymwneud â’r meysydd mae’n craffu arnynt.
Bydd amlder a natur cyfarfodydd y panel yn cael ei bennu gan y panel a Chartrefi Conwy. Mae disgwyl iddynt gael eu trefnu’n flynyddol i roi ystyriaeth i dasgau’r panel. Bydd pob adolygiad craffu angen cyfres o gyfarfodydd/sesiynau yn dibynnu ar y pwnc i sicrhau dealltwriaeth a gwaith craffu trwyadl.
A yw’r Panel Trosolwg a Chraffu’n gweithio gyda Grwpiau Tenantiaid eraill?
Efallai y bydd y Panel Trosolwg a Chraffu’n dymuno gwneud ymchwil i wasanaeth penodol yn ystod adolygiad. Gall y panel gael gwybodaeth gan denantiaid sydd wedi bod ynghlwm ag ymgynghoriadau neu grwpiau ffocws yn ôl yr angen.
A yw Cartrefi Conwy’n cynnig hyfforddiant?
Bydd pob aelod newydd ar y Panel Trosolwg a Chraffu’n dilyn rhaglen gynefino lle bydd anghenion am hyfforddiant yn cael eu hasesu. Bydd hyfforddiant, cefnogaeth a chymorth mentora priodol wedi’i ddarparu.
A yw Aelodau o’r Panel Craffu’n cael eu talu?
Mae aelodau’r Panel Trosolwg a Chraffu’n rhai ‘gwirfoddol’ sy’n golygu nad ydynt yn cael eu talu. Er hynny, mae aelodau’r panel yn cael ad-daliad am unrhyw gostau maent yn gorfod eu talu wrth wneud gwaith ar ran Cartrefi Conwy.
Last modified on Tachwedd 17th, 2022 at 12:39 pm