Gellir gweld y Tîm Cymunedol yn rheolaidd yn cerdded o amgylch ein cymdogaethau i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnal yn dda.
Cynhelir arolygon ffurfiol yn chwarterol a bydd tenantiaid a phreswylwyr yn cael eu gwahodd i fynychu ein harolygon.
Rydym hefyd yn cynnal ymweliadau mwy anffurfiol. Dyma’r cyfle perffaith i chi gyfarfod eich Cydlynydd Cymdogaeth a chydweithwyr eraill o Cartrefi Conwy a thrafod ffyrdd y gallwn wella eich cymdogaeth.
Cliciwch yma (dolen gyswllt i’r amserlen PDF) i ddarganfod pryd mae’r ymweliad anffurfiol nesaf.
Fel arall, os hoffech gysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw agwedd o’r arolygon neu i roi gwybod i ni am broblem neu ofyn am arolwg yn eich ardal, cysylltwch â’r Tîm Cymdogaeth:
0300 124 0040
Neu llenwch ein ffurflen ar-lein:
Last modified on Ebrill 24th, 2017 at 4:14 pm