Cyllid Cist Gymunedol

Cyllid Cist Gymunedol

Mae cronfa Cist Gymunedol Cartrefi Conwy yn cefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol ffurfiol i gyflawni prosiectau cymunedol ar raddfa fach. Rydyn ni’n helpu i ariannu prosiectau sydd o fudd i’n deiliaid contract a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Mae grantiau o hyd at £1,000 ar gael. Rhai o’r pethau y gall y grant eich helpu gyda nhw yw:

• Gweithgareddau a digwyddiadau
• Offer a deunyddiau
• Dysgu a Hyfforddiant
• Prosiectau garddio a mwy

Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen Cist Gymunedol newydd.

Cliciwch i ddarllen ein nodiadau arweinyddol cyn ymgeisio

Ebostiwch eich ffurflen i get.involved@cartreficonwy.org

Last modified on Tachwedd 30th, 2022 at 6:18 pm