Dadansoddwr Systemau Busnes

Dadansoddwr Systemau Busnes

Dadansoddwr Systemau Busnes

End Date: 10th May 2026

Dadansoddwr Systemau Busnes

Rydym yn chwilio am ddatrysydd problemau sydd â meddylfryd digidol ac sy’n rhoi cwsmeriaid yn gyntaf. Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn helpu i lunio, cyflwyno a gwella’n barhaus systemau busnes Cartrefi Conwy, gan sicrhau bod ein datrysiadau digidol yn ddiogel, yn cydymffurfio ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, byddwch yn trosi anghenion busnes yn atebion system ymarferol o ansawdd uchel sy’n gwella gwasanaethau ac yn cefnogi ein huchelgeisiau trawsnewid ehangach.

Byddwch yn dod â gallu technegol cryf, angerdd dros ansawdd data a phrofiad y defnyddiwr, ynghyd ag ymrwymiad i’n gwerthoedd: Gwneud y Peth Cywir, Cydweithio’n Gryfach ac Arwain drwy Esiampl — gan fyw’r rhain bob dydd yn y ffordd rydych yn cefnogi cydweithwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd.

Cyflog: Hyd at £41,930 gros y flwyddyn

Contract: Parhaol

Oriau: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Other Careers Available