Rhannodd ein Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn Nerys Veldhuizen ei barn ar bwysigrwydd digwyddiadau cymunedol:
- ”Gan fod cyfyngiadau Covid bellach wedi’u codi mae ein tenantiaid hŷn yn dechrau teimlo’n fwy hyderus wrth fynd allan yn eu cymuned. Mae wedi bod yn flaenoriaeth inni wneud yn siŵr eu bod yn teimlo’n ddiogel wrth gamu allan eto ar ôl dwy flynedd o ynysu cymdeithasol. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r effeithiau dinistriol y gall unigrwydd eu cael ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Felly rwyf wedi bod yn brysur yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol sy’n dod â’n tenantiaid hŷn ynghyd i fwynhau cwmni ein gilydd a chael hwyl. Rwy’n ceisio teilwra gweithgareddau i weddu i anghenion tenantiaid. Rwy’n helpu i sefydlu Clybiau Brunch, Boreau Coffi, Sesiynau Ffitrwydd, Grwpiau Celf, Sesiynau Canu a Grwpiau Cerdded. Rwyf bob amser yn edrych allan i roi cynnig ar bethau newydd ar ôl gwrando ar lais y tenant. Mae gweld y gwahaniaeth y mae’r digwyddiadau hyn yn ei wneud ar iechyd a lles unigolion yn galonogol ac yn amlwg dim ond trwy weld eu hwynebau’’
Os hoffech gymryd rhan, mae amserlen lawn o ddigwyddiadau ar gael isod:
Get Involved Timetable
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o’r sesiynau, e-bostiwch get.involved@cartreficonwy.org neu ffoniwch Nerys ar 01745 335 572 neu 07733916255
Last modified on Mehefin 8th, 2022 at 2:48 pm